Cymorth cyntaf

Symbol cymorth cyntaf yr ISO.

Darpariaeth gofal iechyd yn y fan a'r lle (neu'n "gyntaf") yw cymorth cyntaf. Ei bwrpas yw trin claf ar unwaith, cyn y gellir rhoi triniaeth feddygol, broffesiynol.[1] Er enghraifft rhodir triniaeth cymorth cyntaf cyn i'r claf gyrraedd ysbyty neu yn y cartref a hynny, fel arfer gan leygwr. Yn aml does dim rhaid wrth driniaeth pellach. Er y gellir hefyd roi triniaeth cymorth cyntaf i anifeiliaid, mae'r term fel arfer yn cyfeirio at bobl.

Ymdrinir â phroblemau difrifol yn gyntaf, megis gwaedu, gweithrediad y galon, a'r gallu i anadlu. Os yw'r claf yn ymwybodol, gofynnir iddo gwestiynau am ei hanes meddygol a chaiff ei gysuro'n gyson. Os nad yw'r claf yn ymwybodol, edrychir am freichled neu gerdyn adnabod meddygol. Mae'n rhaid cadw'r claf yn gynnes ac yn gyfforddus a'i symud cyn lleied ag y bo modd.[1]

  1. 1.0 1.1 Mosby's Medical Dictionary (St Louis, Missouri, Mosby Elsevier, 2009 [wythfed argraffiad]), t. 730. ISBN 978-0323052900

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search